EMDR has a well-established evidence base for treating PTSD/CPTSD with emerging evidence suggesting intensive short-term versions may also be effective. This study investigated a six-day outpatient version of intensive trauma treatment in secondary care NHS settings in Wales with high levels of social deprivation. The multi-component programme consisted of psychoeducation, imaginal exposure, EMDR and a group activity (eg. yoga) each day. Up to six patients attended per cohort and worked with multiple therapists over the six-day intervention. Trauma and depressive symptoms were assessed using the CAPS-5, PCL-5, ITQ, and BDI-II. Measures were completed at assessment plus 4-weeks and 6-months follow-up. We included data from a sample of 56 participants, assessing PTSD/CPTSD in terms of diagnostic status according to ICD-11, reliable improvement, and clinically significant change. We found a high level of recovery from PTSD/CPTSD. Participants reaching threshold for a CPTSD diagnosis reduced from 86% to 22%, and 73% were no longer meeting diagnostic criteria for either PTSD/CPTSD. 72% of participants reliably improved in terms of their depressive symptoms at 4-weeks, increasing to 85% at 6-months. According to the CAPS-5, 78.9% of our sample achieved clinically significant change for PTSD symptoms and 84% were reliably improved at 6-month follow-up. Given the high demand for trauma therapy and waiting list pressures, these results from a short-term trauma intervention within an NHS secondary care mental health service are encouraging. Mae gan EMDR sylfaen dystiolaeth wedi’i sefydlu ar gyfer trin anhwylder straen ôl-drawmatig/anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth (PTSD/CPTSD) gyda thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg sy’n awgrymu y gallai fersiynau tymor byr dwys hefyd fod yn effeithiol. Roedd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i fersiwn chwe diwrnod i gleifion allanol o driniaeth trawma dwys mewn lleoliadau gofal eilaidd y GIG yng Nghymru gyda lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol. Roedd y rhaglen aml-gydran yn cynnwys seicoaddysg, amlygiad dychmygol, EMDR a gweithgaredd grŵp (e.e. ioga) bob dydd. Daeth hyd at chwe chlaf i bob carfan a gweithio gyda nifer o therapyddion dros yr ymyriad chwe diwrnod o hyd. Aseswyd symptomau trawma ac iselder gan ddefnyddio’r CAPS-5, PCL-5, ITQ, a BDI-II. Cwblhawyd mesurau yn ystod yr asesiad ynghyd â 4 wythnos a 6 mis ar ôl hynny. Fe wnaethom gynnwys data gan sampl o 56 o gyfranogwyr, gan asesu PTSD/CPTSD o ran statws diagnostig yn ôl ICD-11, gwelliant dibynadwy, a newid sylweddol yn glinigol. Gwelsom lefel uchel o adferiad ar ôl PTSD/CPTSD. Roedd nifer y cyfranogwyr a oedd yn cyrraedd y trothwy ar gyfer diagnosis o CPTSD wedi gostwng o 86% i 22%, ac nid oedd 73% bellach yn bodloni’r meini prawf diagnostig ar gyfer PTSD/CPTSD. Roedd 72% o gyfranogwyr wedi gwella’n ddibynadwy o ran eu symptomau iselder ar ôl 4 wythnos, gan gynyddu i 85% ar ôl 6 mis. Yn ôl y CAPS-5, llwyddodd 78.9% o’n sampl i sicrhau newid sylweddol yn glinigol ar gyfer symptomau PTSD ac roedd 84% wedi gwella’n ddibynadwy ar ôl 6 mis. Ac ystyried y galw mawr am therapi trawma a phwysau ar restrau aros, mae’r canlyniadau hyn o ymyriad trawma tymor byr o fewn gwasanaeth iechyd meddwl gofal eilaidd y GIG yn galonogol.
更多